TEITL |
Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2013 |
DYDDIAD |
5 Gorffennaf 2013 |
GAN |
Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd |
Rwyf wedi gofyn i’r rheoliadau drafft o’r enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2013, fel y’u gosodwyd ar 11 Mehefin 2013, gael eu tynnu’n ôl ar unwaith.
Fy nod i yw gwella lles cŵn mewn sefydliadau bridio trwyddedig er mwyn sicrhau bod y cŵn bach sy’n cael eu geni yn y sefydliadau hynny’n cael yr amodau lles gorau posibl ac yn datblygu ac yn dysgu cymdeithasu yn briodol. I’r perwyl hwnnw, rwy’n benderfynol cael fframwaith statudol a gynhelir gan reoliadau effeithlon a hawdd eu gorfodi.
Tynnwyd fy sylw at y ffaith bod diffyg eglurdeb yn y rheoliadau presennol ynghylch y gymhareb staff: cŵn ofynnol. Er mwyn dilyn y prosesau cyfreithiol priodol a sicrhau bod bwriad fy mholisi yn gwbl glir, rwyf wedi penderfynu tynnu’r rheoliadau’n ôl am y tro.
Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gynnal ymgynghoriad byr arall dros fisoedd yr haf. Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau ein bod yn egluro bwriad y polisi yn drylwyr ac rwy’n bwriadu dod â rheoliadau drafft diwygiedig ac asesiad o’r effaith gerbron Cyfarfod Llawn y Cynulliad yn yr hydref.
Byddaf yn sicrhau bod gennym fframwaith statudol cadarn ac effeithiol a fydd yn gwella lles cŵn yn y sefydliadau bridio hyn. Rwy’n hyderus na fydd hyn yn achosi gormod o anhawster ac rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r ddeddfwriaeth flaengar hon yn nes ymlaen eleni.